Courier Fraud Awareness

Dyfed Powys Police have started to see a rise in ‘Courier Fraud’.

  • Courier Fraud is not the fake DPD or Royal Mail text type scam.
  • Courier Fraud involves a criminal pretending to be a police officer and phoning you.
  • Courier Fraud results in a criminal collecting money or bank cards from you personally.

These frauds are predominantly aimed at those using landlines and those that will not question if the person at the other end really is who they say they are.

The current version of the fraud works by the criminal phoning the victim stating that they are a police officer and that they have someone under arrest for fraudulent use of their credit or debit card.

The criminal may state that the person in custody is a relative of the victim, and that the victim is under caution and cannot tell anyone else about the call.

The criminal will then go on to get the victim to either withdraw money for some spurious reason or gain details of their credit/debit card.

The reason it is called Courier Fraud is because the result is the criminal tells the victim that a courier will be collecting the money or card and PIN.

The courier will be the criminal – who will pretend to be a courier or the ‘police officer’ that spoke to the victim.

They will reassure the victim that the money will be held in safe keeping and be returned or refunded.

The reason for collecting the money will normally be that the bank has rogue staff that are putting counterfeit money in the withdrawals that people request.

I have attached a PDF which can be printed A3, A4 or A5 so can be used as a leaflet or poster, it is Welsh one side and English on the other.

2022-11a DPP Courier Fraud Leaflet C and E

Remember

  • The police will never phone you and ask you to convey details of your debit or credit card
  • The police will not caution you over the phone and ask you to collect money
  • The police will not contact you to tell you your debit or credit card has been cloned
  • The police, or your bank, will never ask you to withdraw money or transfer it to a different account
  • The police will never ask you to reveal your full banking password or PIN
  • Phone a family member or friend to make sure the line has cleared and then phone 101 to report to police
  • Report it online: https://www.dyfed-powys.police.uk/en/contact-us/report-an-incident/ or call 101

+++

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dechrau gweld cynnydd o ran ‘Twyll Cludwr’.

  • Nid y twyll negeseuon testun Post Brenhinol neu DPD ffug yw Twyll Cludwr.
  • Mae Twyll Cludwr yn ymwneud â throseddwr yn eich ffonio ac yn esgus mai swyddog heddlu ydyw.
  • Mae Twyll Cludwr yn arwain at droseddwr yn casglu arian neu gardiau banc gennych chi’n bersonol.

Mae’r math hwn o dwyll wedi’i anelu’n bennaf at y rhai sy’n defnyddio llinellau tir a’r rhai na fydd yn cwestiynu pa un ai a yw’r unigolyn ar ben arall y ffôn yn dweud y gwir am bwy ydyw.

Yn fersiwn diweddaraf y twyll, mae’r troseddwr yn galw’r dioddefydd gan ddweud mai swyddog heddlu ydyw a bod rhywun wedi’i arestio am ddefnyddio ei gerdyn credyd neu ddebyd.

Efallai bydd y troseddwr yn dweud bod yr unigolyn yn y ddalfa’n perthyn i’r dioddefydd, a bod y dioddefydd dan rybudd a ddim yn cael dweud wrth unrhyw un arall am yr alwad.

Yna, bydd y troseddwr yn cael y dioddefydd i dynnu arian allan am ryw reswm ffug, neu’n cael manylion ei gerdyn credyd neu ddebyd.

Gelwir hyn yn Dwyll Cludwr oherwydd y canlyniad yw bod y troseddwr yn dweud wrth y dioddefydd y bydd cludwr yn casglu’r arian neu’r cerdyn a’r rhif PIN.

Y cludwr fydd y troseddwr – bydd yn esgus bod yn gludwr neu’r ‘swyddog heddlu’ a siaradodd â’r dioddefydd.

Bydd yn sicrhau’r dioddefydd y bydd yr arian yn cael ei gadw’n ddiogel ac yn cael ei ddychwelyd neu ei ad-dalu.

Fel arfer, y rheswm a roddir dros gasglu’r arian yw bod staff banc twyllodrus yn rhoi arian ffug i gwsmeriaid sy’n tynnu arian allan.

Rwyf wedi atodi dogfen PDF y gellir ei hargraffu ar bapur maint A3, A4 neu A5 fel bod modd ei defnyddio fel taflen neu boster. Mae’r ddogfen yn Gymraeg ar un ochr a Saesneg ar yr ochr arall.

Cofiwch

  • Ni fydd yr heddlu’n eich ffonio ac yn gofyn ichi am fanylion eich cerdyn debyd neu gredyd
  • Ni fydd yr heddlu’n eich rhybuddio dros y ffôn nac yn gofyn ichi gasglu arian
  • Ni fydd yr heddlu’n cysylltu â chi i ddweud wrthych fod eich cerdyn debyd neu gredyd wedi’i glonio
  • Ni i fydd yr heddlu, na’ch banc, byth yn gofyn ichi dynnu arian neu ei drosglwyddo i gyfrif gwahanol
  • Ni fydd yr heddlu byth yn gofyn ichi ddatgelu eich cyfrinair bancio llawn na’ch rhif PIN
  • Galwch aelod o’r teulu neu ffrind er mwyn gwneud yn siŵr fod y llinell wedi’i chlirio, yna galwch 101 i adrodd am y digwyddiad wrth yr heddlu
  • Cyflwynwch adroddiad ar-lein: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/neu galwch 101
Translate »