Increasing Pension Credit uptake – online summit meeting 8th Dec

It is estimated that up to 80,000 older people in Wales do not receive Pension Credit despite being eligible, meaning that over £200 million was left unclaimed in the Treasury last year rather than reaching those who needed it most.

Whilst this post is primarily to advertise an online summit meeting do consider whether you have an entitlement to Pension Credit.

Sgroliwch lawr ar gyfer y Saesneg / Please scroll down for English

************

 Uwchgynhadledd Ar-lein: O’r Trysorlys i Dreorci

Cynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru

 10-11.30am, dydd Iau 8 Rhagfyr

 Ymunwch â’r Comisiynydd mewn uwchgynhadledd ar-lein i edrych ar y camau y mae angen eu cymryd, a’r ffyrdd y gallwn weithio gyda’n gilydd, i sicrhau nad yw pobl hŷn yng Nghymru yn colli’r cyfle i gael Credyd Pensiwn, sy’n gallu rhoi hwb sylweddol i incwm pobl ac sy’n rhoi mynediad at hawliau pwysig eraill.

 Amcangyfrifir nad yw hyd at 80,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn derbyn Credyd Pensiwn er eu bod yn gymwys. Mae hyn yn golygu bod dros £200 miliwn wedi aros yn y Trysorlys heb ei hawlio’r llynedd, yn hytrach na chyrraedd y rhai oedd ei angen fwyaf.

 Gydag 1 o bob 5 o bobl hŷn yng Nghymru nawr yn byw mewn tlodi, a chostau byw yn parhau i gynyddu, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl hŷn yn cael yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.

 Bydd pobl hŷn, a chynrychiolwyr o sefydliadau allweddol – gan gynnwys Llywodraeth Cymru ac Age Cymru – yn ymuno â’r Comisiynydd i rannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd am y ffyrdd mwyaf effeithiol y gallwn estyn allan at bobl hŷn mewn cymunedau ledled Cymru, i godi ymwybyddiaeth o Gredyd Pensiwn a chefnogi’r rheini sy’n gymwys i hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo, a sut y gallwn gymryd camau pellach i gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru. 

 Mae croeso i chi rannu’r gwahoddiad hwn gyda’ch rhwydweithiau ac unrhyw un o’ch cysylltiadau a allai fod â diddordeb mewn mynychu.

 Gobeithio y gallwch chi ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad – i archebu eich lle, ewch i: https://tocyn.cymru/en/event/5bba2c6e-2d5b-4c2e-b100-a321bdab29a0

 Diolch yn fawr!

 ***********

 Online Summit: From the Treasury to Treorchy

Increasing Pension Credit Uptake in Wales

 10-11.30am, Thursday 8 December

 Join the Commissioner for an online summit to explore the action needed, and the ways we can work together, to ensure that older people in Wales do not miss out on Pension Credit, which can boost people’s incomes significantly and provides access to other important entitlements.

 It is estimated that up to 80,000 older people in Wales do not receive Pension Credit despite being eligible, meaning that over £200 million was left unclaimed in the Treasury last year rather than reaching those who needed it most.

 With 1 in 5 older people in Wales now living in poverty, and living costs continuing to spiral, it’s more important than ever that older people receive all the financial support they’re entitled to.

 Older people, and representatives from key organisations – including Welsh Government and Age Cymru – will be joining the Commissioner to share their insight and expertise about the most effective ways we can reach out to older people in communities throughout Wales, to raise awareness about Pension Credit and support those who are eligible to claim what they’re entitled to, and how we can take forward further action to increase Pension Credit uptake in Wales. 

 Please feel free to share this invite with your networks and any of your contacts who may be interested in attending.

 We hope you can join us for the event – to book your place, visit: https://tocyn.cymru/en/event/5bba2c6e-2d5b-4c2e-b100-a321bdab29a0

 Many thanks!

 Richard Jones

Pennaeth Cyfathrebu // Head of Communications

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru // Older People’s Commissioner for Wales

 Adeiladau Cambrian // Cambrian Buildings
Sgwâr Mount Stuart // Mount Stuart Square
Caerdydd // Cardiff

CF10 5FL

 Rydym yn croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi // We welcome receiving correspondence in Welsh, we will respond to correspondence in Welsh and corresponding in Welsh will not lead to delay

 Ffôn // Tel: 07515 288271

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg // We welcome calls in Welsh

 https://comisiynyddph.cymru // https://olderpeople.wales/

 Dilynwch ni ar Twitter @comisiwnphcymru // Follow us on Twitter @talkolderpeople

 Ewch i’n tudalen Facebook // Visit our Facebook page: https://bit.ly/2lX6QLq

Translate »